Golwr Casnewydd yn feirniadol o'i gefnogwyr ei hun.

Danny Potter Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Danny Potter fod yr enllib gan y cefnogwyr yn ffiaidd

Dywed golwr Casnewydd, Danny Potter, fod y chwaraewyr wedi dioddef enllib ofnadwy gan eu cefnogwyr eu hunain ddydd Sadwrn.

Aeth Casnewydd allan o Gwpan yr FA ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Amwythig ar Barc Sbytty.

"Fe ddaethon ni oddi ar y cae ar yr egwyl ac roedd yr enllib yn atgas," meddai Potter.

"Roeddwn i wedi ffieiddio wrth ddod oddi ar y cae. Roedd e'n enllib personol, a does dim rhaid i ni ddiodde' hynny.

"Rydym yn gwneud ein gorau ym mhob gêm.

Ac mae Potter, a ddaeth i Gasnewydd ym mis Awst, yn dweud nad dyma'r tro cyntaf i chwaraewyr ddiodde' enllib o'r fath y tymor hwn.

"Rydym yn clywed hyn ymhob gêm. Wrth ddod oddi ar y cae mae saith neu wyth ohonom yn dweud eu bod wedi clywed yr enllib o'r funud gyntaf tan y diwedd.

"Rydym yn haeddu beirniadaeth, ond mae'r sylwadau personol yn embaras. Dyw ymddygiad rhai o'r cefnogwyr ddim yn mynd i fod o gymorth i'r clwb o gwbl."

Cyn y gêm roedd y rheolwr, Justin Edinburgh, wedi galw ar y cefnogwyr i greu awyrgylch anodd i'r ymwelwyr o'r Amwythig.

Ond dywedodd Potter fod lleiafrif o'r cefnogwyr wedi gwneud y gwrthwyneb drwy wylltio'u chwaraewyr eu hunain gyda'r enllib personol.

Ychwanegodd: "Cyn i mi ddod yma roeddwn i wedi clywed eu bod nhw'n gefnogwyr gwych, ac mae 90-95% ohonyn nhw yn ffantastig.

"Ond mae'r lleiafrif yn eu gadael nhw i lawr. Mae clywed hynny gan gefnogwyr wrth adael y cae yn gwneud i chi gwestiynnu eich dyfodol."