Gwrthdrawiad: Teyrnged i dad

Charlotte a Carlo Renzi Image copyright Other
Image caption Bu Carlo Renzi yn gofalu am ei ferch fach Charlotte tan ei marwolaeth yn gynharach eleni

Mae heddlu sy'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Abertawe nos Sadwrn wedi cyhoeddi enw'r dyn 31 oed fu farw.

Cafodd Carlo Renzi ei ladd pan gafodd ei daro gan gar y tu allan i dafarn yr Union, Ffordd Port Tennant yn Abertawe am tua 7:35pm nos Sadwrn, Tachwedd 12.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Renzi ei fod wedi bod yn gofalu am ei ferch Charlotte a fu farw yn 6 oed yn gynharach eleni yn dilyn salwch difrifol.

'Colled enfawr'

Mewn datganiad, dywedodd y teulu:

"Roedd Carlo yn ŵr cariadus i Claire ac yn dad gwych i'r diweddar Charlotte, Carlo junior, George a Niall, ac roedd hefyd yn fab, mab-yng-nghyfraith, brawd a brawd-yng-nghyfraith.

"Bydd colled enfawr ar ei ôl. Doedd dim modd anghofio Carlo i bawb a gyfarfu ag ef.

"Roedd Carlo yn gefnogwr pêl-droed brwd i dimau Abertawe a Lerpwl. Roedd hefyd yn chwarae mewn cynghreiriau lleol yn Abertawe.

"Gwasanaethodd gyda'r Gwarchodlu Cymreig am bedair blynedd gan gynnwys cyfnod yn Bosnia.

"Wedi iddo dreulio cyfnod yn gofalu am Charlotte, a fu farw yn 6 oed ym Mehefin 2011, roedd wedi dechrau gweithio yng ngwesty'r Ibis yn Abertawe."

Arestio

Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â'r digwyddiad ac yn parhau i gael ei holi yng ngorsaf heddlu Canol Abertawe.

Mae'r teulu wedi gofyn i'r cyfryngau barchu eu preifatrwydd yn y cyfnod anodd iawn yma.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y cerbyd yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad nos Sadwrn i gysylltu â nhw drwy ffonio 01656 869332, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.