Cyhuddo dyn wedi i ddau gael eu trywanu yng Nghaerdydd

Mae dyn 34 oed wedi cael ei gyhuddo o anafu ar ôl i ddau ddyn gael eu trywanu mewn siop gebab yng Nghaerdydd.

Aed â'r ddau ddyn, y ddau yn 23 oed, i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas ar ôl yr ymosodiad ar Grand Avenue yn Nhrelái, Caerdydd toc cyn 1am ddydd Sul.

Mae un dyn yn dal yn yr ysbyty ac mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dyn 42 oed ei arestio hefyd ac mae o wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Bu'r ffordd o flaen y siop, Ely Kebab House, ar gau am oriau ddydd Sul.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu'r De ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.