Helen Jenkins yn ennill gwobr triathlon

Helen Jenkins Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Enillodd Helen Jenkins bencampwriaeth y byd yn 2008 a 2011

Mae pencampwraig triathlon y byd Helen Jenkins wedi ei dewis yn athletwr Olympaidd Prydain y flwyddyn yn y gamp.

Cipiodd Jenkins o Ben-y-bont ar Ogwr bencampwriaeth Triathlon y Byd am yr ail waith ym mis Medi eleni.

Fe ddaeth yn ail yn rownd olaf y bencampwriaeth yn Beijing, ac roedd hynny'n ddigon i roi'r fuddugoliaeth iddi dros gyfres gornestau'r haf.

Er mai Albanes yw hi, mae Jenkins wedi byw yng Nghymru ers rhai blynyddoedd ar ôl priodi ei hyfforddwr, Marc Jenkins.

Wedi iddi ennill y wobr, dywedodd Jenkins: "Rwy'n credu mai hwn yw'r drydedd flwyddyn yn olynol imi ennill y wobr hon ac rwy'n falch iawn bod pobl yn dal i bleidleisio imi."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.