Ysbyty Athrofaol Cymru yn 40 oed

Mae ysbyty mwyaf Cymru yn dathlu 40 mlynedd ers i'r Frenhines agor yr adeilad yn swyddogol.

Agorodd Ysbyty Athrofaol Cymru ei ddrysau i gleifion yng Nghaerdydd ar Dachwedd 19 1971.

Erbyn hyn mae'r ysbyty yn trin tua 400,000 o bobl yn flynyddol.

Dyma un o'r ysbytai cyntaf ym Mhrydain i gyfuno gofal cleifion â hyfforddi staff meddygol ar yr un safle.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Jan Williams, fod yr ysbyty wedi mynd "o nerth i nerth" o ran gofal iechyd a gwaith ymchwil.

Ysbyty Plant Cymru

Cafodd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty athrofaol eu crybwyll am y tro cyntaf yn fuan ar ôl diwedd Yr Ail Ryfel Byd.

Fe gafodd sawl safle eu cynnig ar gyfer yr ysbyty newydd yn y brifddinas.

Safle Parc y Mynydd Bychan gafodd ei ddewis am ei fod yn gyfleus i bobl ei gyrraedd o bob rhan o'r ddinas.

Dechreuodd y gwaith o godi'r ysbyty ym 1963.

Fe agorwyd yr ysbyty deintyddol, sy'n rhan o'r Athrofa, ym 1965.

Flwyddyn yn ddiweddarach, dechreuwyd y gwaith o godi'r prif adeilad.

Cafodd y gwaith ei gwblhau yn 1971.

Bu ehangu pellach yn 2006 pan agorodd Ysbyty Plant Cymru wrth ochr y prif adeilad.

Mae 8,028 o bobl yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan gynnwys 1,040 o staff meddygol a deintyddol a 2,348 o nyrsys cymwysedig.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r bobl gynlluniodd a chomisiynodd yr ysbyty ac i'r holl staff sydd wedi chwarae eu rhan i sefydlu enw da'r ysbyty yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf," ychwanegodd Ms Williams.

"Mae ein gwasanaethau arbenigol wedi mynd o nerth i nerth ac mae'r ysbyty'n haeddu ei enw da rhyngwladol ym meysydd dermatoleg, arennau a gwaed."

Image copyright Other
Image caption Cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau erbyn 1971

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.