Marwolaeth anesboniadwy mewn bwyty yn Ninbych

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn trin marwolaeth dyn mewn bwyty fel un anesboniadwy.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff y dyn 47 oed gael ei ganfod mewn bwyty Asiaidd yn Ninbych

Dywedodd yr heddlu bod y corff wedi cael ei ganfod dros nos nos Iau bore Gwener Tachwedd 17-18.

Fe fydd post mortem yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw ffonio'r heddlu ar 0845 607 1001 neu 101 yng Nghymru.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.