Reading 1-2 Caerdydd

Peter Whittigham yn dathlu ei gôl dros Gaerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Peter Whittigham yn dathlu ei gôl dros Gaerdydd

Reading 1-2 Caerdydd

Cododd Caerdydd i'r pedwerydd safle yn Y Bencampwriaeth ar ôl perfformiad arbennig yn Reading.

Rhwydodd Peter Whittingham ar ôl dau funud yn unig yn Stadiwm Madejski.

Daeth ail gôl Yr Adar Gleision wedi cic rydd wrth i Mark Hudson ganfod y rhwyd a hynny 20 munud cyn diwedd y gêm.

Ond saith munud yn ddiweddarach cafodd Jimmy Kebe gôl i'r tîm cartref.

Dyma drydedd fuddugoliaeth Caerdydd o'r bron.

Tabl y Bencampwriaeth

Tîm Chwarae Gwahaniaeth goliau Pwyntiau
1. Southampton 17 23 39
2. West Ham 17 16 34
3. Middlesbrough 17 8 31
4. Caerdydd 17 10 30
5. Leeds 17 2 28
6.Hull 16 1 27

Dydd Sadwrn Tachwedd 19 2011