Cynllun bragdy i hen ladd-dy yn Sir Ddinbych

Baril cwrw Image copyright bbc
Image caption Gall y bragdy gynhyrchu hyd at 1,650 litr o gwrw yr wythnos

Mae hen ladd-dy yn Sir Ddinbych yn mynd i gael ei addasu yn fragdy bach.

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo'r cynlluniau ar gyfer y safle yn Henllan ger Dinbych.

Ond roedd trigolion lleol wedi codi amheuon yn ogystal â chynghorwyr cymuned.

Roedden nhw'n dweud eu bod yn pryderu am yr arogl a dŵr budur a fyddai'n cael ei storio ar y safle fel rhan o'r broses.

Credir y bydd y bragdy yn cynhyrchu 1,650 litr - neu 10 Baril Brydeinig - o gwrw bob wythnos sy'n cyfateb i un brag.

Ond gallai hynny gael ei gynyddu i 30 baril a thri brag o fewn tair blynedd petai'n llwyddiannus.

Fe wnaeth y lladd-dy gau yn 1985.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.