Goleuo'r Goeden yn arddangosfa i gofio anturiaethwr

Aelodau o grŵp Captên Scott yn canfod pabell Roald Amundsen ym 1912 Image copyright Getty Images
Image caption Aelodau o grŵp Captên Scott yn canfod pabell Roald Amundsen ym 1912

Bydd arddangosfa'n coffau antur epig Roald Amundsen, yr anturiaethwr Norwyaidd i Begwn y De, yn cael ei chynnal yn Yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd.

Agorir Atgofion Oer: Myfyrdodau Fforiwr i'r Pegwn, yn swyddogol ddydd Sul gan Tom-Christer Nilsen, Maer Sirol Hordaland, gefeilldref Caerdydd yn Norwy.

Bydd agoriad yr arddangosfa'n cyd-fynd â Seremoni Goleuo'r Goeden Nadolig, a gynhelir yn flynyddol yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd.

I ddathlu canmlwyddiant taith Roald Amundsden fel y fforiwr cyntaf i gyrraedd Pegwn y De, bydd arddangosfa ffotograffau sy'n coffáu'r digwyddiad i'w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd o ddydd Sadwrn Tachwedd 26 2011.

Taith Arctig

Mae'r arddangosfa wedi ei benthyg o Amgueddfa Fram, Norwy, a'i threfnu drwy'r bartneriaeth arbennig sydd rhwng yr Eglwys a'n cyfeillion yn Norwy.

Arweiniodd Roald Amundsen yr alldaith, sy'n dwyn sylw'r arddangosfa, i Begwn y De, o 1910 i 1912.

Image copyright Getty Images
Image caption Aelodau o grŵp Captên Scott yn canfod pabell Roald Amundsen ym 1912

Prif nod yr arddangosfa, a fydd i'w gweld yn Oriel Dahl tan ddydd Sul Rhagfyr 18, fydd dangos i ymwelwyr ddelweddau ddaeth o sleidiau llusern a ddefnyddiwyd gan Amundsen yn ystod ei sgyrsiau a'i ddarlithoedd cyhoeddus.

Yn ychwanegol at hyn, bydd yr arddangosfa'n darlunio'r her a gafwyd mewn taith i'r Arctig yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ac yn rhoi golwg unigryw ar fywydau bob dydd teithwyr i'r pegwn.

Agorir yr arddangosfa'n swyddogol ddydd Sul yr un pryd â seremoni flynyddol Goleuo'r Goeden Nadolig gyda cherddoriaeth ac adloniant Nadoligaidd o 4pm.

Mae pobl Hordland wedi bod yn rhoi coeden Nadolig fel anrheg bob blwyddyn i'r Eglwys Norwyaidd.

Eleni, bydd Coeden Nadolig barhaol Hordland yn goeden goffa i gofio'r rhai hynny a fu farw yn ystod yr ymosodiadau yn Norwy yn gynharach eleni.

Bydd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd yn gwmni i'r Parch Torbørn Holt wrth arwain Seremoni Goleuo'r Goeden a fydd yn dechrau am 5pm.

Mae mis Tachwedd yn nodi chwe mis ers i'r eglwys gael ei hailagor, yn dilyn rhaglen ailwampio sylweddol.

Mae miloedd wedi dod i fwynhau'r eglwys fel hafan heddychlon ar lannau'r dwr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.