Cymro wedi marw yng Ngwlad Thai

Jason Richards Image copyright Other
Image caption Bu farw Jason Richards ar Ynys Phuket

Mae Cymro wedi marw mewn damwain ar y ffordd yng Ngwlad Thai.

Roedd Jason Richards, 40 oed o'r Ty-du ger Casnewydd yn wreiddiol, yn gyrru sgwter ar ynys wyliau Phuket pan gafodd ei ladd.

Roedd yn gyrru adre o far ger pentref Kamala.

Symudodd Mr Richards - oedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Basaleg yng Nghasnewydd - i Wlad Thai dair blynedd yn ôl.

Yn ôl adroddiadau mewn papur newydd yn y wlad, roedd yn byw yn ardal Udon Thani yng ngogledd-ddwyrain y wlad cyn symud i Phuket yn ddiweddar.

Credir fod ei sgwter wedi taro yn erbyn y pafin wrth iddo yrru adre ychydig wedi hanner nos. Bu farw yn ddiweddarach mewn ysbyty yn Patong.

Credir hefyd nad oedd yn gwisgo helmed.

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi hysbysu teulu Mr Richards am y farwolaeth, a dywedodd llefarydd:

"Rydym wedi cael gwybod am farwolaeth person o Brydain yn Phuket yng Ngwlad Thai ar Dachwedd 23, 2011, ac rydym yn darparu cymorth consylaidd i'w deulu yn ystod y cyfnod anodd yma."