Diffoddwyr yn taclo tân teiars

Bu diffoddwyr yn ceisio taclo tân oedd yn cynnwys 350 o deiars mewn garej yn Llandudno yn gynnar fore Sadwrn.

Dechreuodd y tân mewn eiddo masnachol yn Builder Street yn y dref ychydig wedi 00:35am.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi gyrru tair injan dân i'r digwyddiad, ac roedd y tân wedi lledu i ddau gar oedd wedi parcio gerllaw.

Chafodd neb eu hanafu, ac fe adawodd y diffoddwyr y safle am tua 3:20am.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.