Llewod yn cyhoeddi amserlen Awstralia yn 2013

Brian O'Driscoll Image copyright Getty Images
Image caption Collodd y Llewod gyfres galed o 2-1 ar eu taith ddiwethaf i Awstralia yn 2001

Bydd tîm rygbi'r Llewod yn agor eu taith yn 2013 gyda gêm yn Hong Kong cyn chwarae naw o gemau yn Awstralia.

Bydd y Llewod yn chwarae tair gêm brawf - yn Brisbane ar Fehefin 22, Melbourne ar Fehefin 29 a Sydney ar Orffennaf 6.

Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu pump o dimau Super 15 Awstralia, ynghyd â thîm cyfun o daleithiau New South Wales/Queensland.

Ond fe fydd y daith yn dechrau gyda gêm ychwanegol yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ar Fehefin 1 ar eu ffordd i Awstralia.

Yno fe fyddan nhw'n dechrau yn erbyn Western Force yn Perth ar Fehefin 5.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Undeb Rygbi Awstralia, John O'Neill: "Mae taith y Llewod yn achlysur enfawr.

"Heblaw Cwpan Y Byd, dyma'r digwyddiad mwyaf a phoblogaidd yn y gêm rygbi drwy'r byd.

"Roedd y daith yma yn 2001 yn ddigwyddiad anhygoel, ac un ddaeth â budd economaidd sylweddol i'r dinasoedd fu'n cynnal y prif gemau.

"Daeth dros 8,000 o gefnogwyr y Llewod i Awstralia o'r DU ac Iwerddon ar becynau teithio swyddogol, ac fe ddaeth miloedd yn fwy ar eu liwt eu hunain.

"Ddwy flynedd yn ôl yn Ne Affrica, roedd sôn bod 40,000 o gefnogwyr y Llewod wedi gwneud y daith i gefnogi eu tîm."

Wedi iddyn nhw gael cweir yn Seland Newydd o 3-0 yn 2005, fe wnaeth Llewod 2008 adfer rhywfaint o hunan barch yn Ne Affrica.

Y tîm cartref enillodd y ddwy gêm brawf agoriadol - yr ail gyda chic ola'r gêm - cyn i'r Llewod gael y fuddugoliaeth yr oedd eu chwarae'n ei haeddu yn y gêm olaf yn Johannesburg.

Y tro diwethaf i'r Llewod ennill taith oedd yn Awstralia ym 1989, a hynny o 2-1.