Gwahardd cynghorydd dros dro

Neil McEvoy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Neil McEvoy: 'Wedi ei bardduo'

Mae Plaid Cymru wedi gwahardd y Cynghorydd Neil McEvoy ar ôl ei sylwadau am elusen Cymorth i Ferched Cymru.

Fe yw Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd.

Ar wefan Facebook roedd wedi honni bod y mudiad yn ariannu cam-drin plant drwy gefnogi merched oedd yn torri gorchmynion llys.

Mae'r mudiad wedi gwadu hyn.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Jocelyn Davies, ei bod hi'n cytuno â'r hyn ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, hynny yw bod y sylwadau'n "anaddas".

Mae Mr McEvoy wedi honni ei fod yn cael ei "bardduo".

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones: "Gallaf gadarnhau bod cwyn wedi ei derbyn sy'n ymwneud â'r Cynghorydd Neil McEvoy.

"Mae'r Blaid wedi atal ei aelodaeth yn unol â rheolau sefydlog y Blaid, hyd nes y gwneir penderfyniad am y gwyn gan Banel Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

"Gan mai mater mewnol i'r Blaid yw hwn, ni fyddwn yn rhoi unrhyw sylwadau pellach ar y mater ar hyn o bryd."