Cwpan Carling: Caerdydd i chwarae Crystal Palace

Kenny Miller Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Kenny Miller sgoriodd gôl gyntaf Caerdydd yn erbyn Blackburn nos Fawrth

Bydd Caerdydd yn chwarae yn erbyn Crystal Palace yn rownd gynderfynol Cwpan Carling.

Tynnwyd yr enwau o'r het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Carling yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl Crystal Palace yn erbyn Manchester United 2-1 yn Old Trafford nos Fercher.

Fe fydd Manchester City yn herio Lerpwl yn y gêm rownd gynderfynol arall.

Bydd cymal cyntaf y gemau rownd gynderfynol yn cael eu chwarae yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar Ionawr 9.

Cyfle euraid

Fe fydd ail gymalau'r rownd gynderfynol yn cael eu chwarae pythefnos yn ddiweddarach.

Bydd y gêm derfynol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Wembley ddydd Sul 26 Chwefror.

Mae hyn yn golygu bod gan Yr Adar Gleision gyfle euraid i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth tra bod Crystal Palace yn y 14eg safle.

Cyrhaeddodd Caerdydd rownd gynderfynol Cwpan Carling am yr ail dro yn hanes y clwb nos Fawrth,

Roedd yr Adar Gleision yn fuddugol o ddwy gôl i ddim yn erbyn Blackburn Rovers yn rownd yr wyth olaf nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Kenny Miller sgoriodd gôl gynta'r gêm i'r tîm cartref wedi 19 munud ar ôl iddo dderbyn pas cywrain gan Aron Gunnarson.

Fe fydd Caerdydd yn gobeithio y byddan nhw'n cael canlyniad gwell na'r tro diwethaf y cyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn ystod tymor 1965-66 pan gollon nhw 5-2 i West Ham yn y cymal cyntaf a 5-1 yn yr ail gymal.

Y Bumed Rownd: Tachwedd 29

Caerdydd 2 Blackburn Rovers 0

Y Bedwaredd Rownd: Hydref 25

Caerdydd 1 Burnley 0

Y Drydedd Rownd: Medi 21

Caerdydd 2 Caerlŷr 2 (Caerdydd yn ennill 7-6 yn dilyn ciciau o'r smotyn)

Yr Ail Rownd: Awst 23

Caerdydd 5 Huddersfield 3

Y Rownd Gyntaf: Awst 10

Rhydychen 1 Caerdydd 3