'Dim bwriad i werthu papur newydd y Western Mail'

Western Mail Image copyright Other
Image caption Roedd gan y Western Mail gylchrediad o 26,931 ar gyfartaledd yn hanner cyntaf 2011

Does dim bwriad i werthu'r Western Mail nac i'w droi'n bapur wythnosol, yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Media Wales.

Wrth roi tystiolaeth o flaen pwyllgor o aelodau Cynulliad, dywedodd Alan Edmunds nad oes 'na gynlluniau i ddiswyddo rhagor o staff ychwaith, er gwaetha gostyngiad yng nghylchrediad cyhoeddiadau'r cwmni.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Media Wales, sy'n cyhoeddi'r Western Mail, y South Wales Echo a'r Wales on Sunday, y bydd 14 o swyddi'n diflannu yng Nghaerdydd.

Fe fydd hyn yn effeithio ar naw swydd yn yr adran hysbysebu a phump yn yr adran olygyddol, gan gynnwys dau ffotograffydd.

Dywedodd y cwmni fod hwn yn rhan o "adolygiad o'r busnes".

Fis diwethaf, fe wnaeth Undeb y Newyddiadurwyr honni y gallai'r Western Mail droi'n wythnosol yn lle dyddiol.

Mae'r undeb wedi dweud y gallai hyn ddigwydd "o fewn cyfnod cymharol brin".

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd gan y Western Mail gylchrediad o 26,931 ar gyfartaledd yn hanner cyntaf 2011 - gostyngiad o 8.9% ers y flwyddyn gynt.

Mae Aelodau Cynulliad yn ymchwilio i ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.