Ymchwilio i ymosodiad difrifol

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio wedi i fyfyriwr 23 oed gael ei drywanu yn ei frest nos Sadwrn.

Roedd yr ymosodiad yng Ngorsaf y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd a chafodd yr heddlu eu galw am 8.40pm.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Cleland: "Roedd hwn yn ymosodiad difrifol ac rydyn ni'n awyddus i siarad ag unrhywun oedd yn y cyffiniau ar y pryd.

Pwysleisiodd fod hwn yn "ddigwyddiad ynysig" a bod yr heddlu wedi rhoi sicrwydd i drigolion lleol a myfyrwyr.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 40 50 40 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.