Bachgen pump oed: Marw trwy ddamwain

Harry Patterson Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Harry Patterson ger ei gartref

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain yn achos bachgen pump oed fu farw ger ei gartref ym Mhontardawe.

Bu farw Harry Patterson wrth chwarae yn ymyl car y teulu ym mis Medi.

Clywodd cwest yng Nghaerdydd ddydd Mawrth ei fod wedi marw pan roliodd y car i lawr dreif y cartref ac fe gafodd ei wasgu yn erbyn wal yr ardd.

Dangosodd ymchwiliad i'w farwolaeth fod brêc llaw'r car ymlaen pan ddigwyddodd y ddamwain ac nad oedd nam ar y car.

Clywodd y gwrandawiad mai cyfuniad o ffactorau - system brecio'n oeri, llethr serth a'r car wedi ei barcio heb fod mewn gêr - arweiniodd at y ddamwain drasig.

Anaf difrifol

Achos y farwolaeth oedd anaf difrifol i'r pen.

Dywedodd y crwner, Mary Hassell, fod hon yn "ddamwain arswydus".

"Rwy'n deall nad yw llawer o yrwyr yn ymwybodol o'r hyn sydd yn Rheolau'r Ffordd Fawr, sef y dylid gosod car mewn gêr wrth barcio ar lethr," meddai.

Roedd rhieni Harry yn y cwest.

Fe ddywedon nhw fod yr 13 wythnos ddiwethaf wedi bod yn uffern, a'u bod yn trefnu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am barcio diogel ac felly gadw cof am Harry yn fyw.

Straeon perthnasol