Tân: Chwe injan wedi eu galw

Mae Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ceisio diffodd tân mewn ffatri yn y Trallwng.

Cafodd y diffoddwyr tân eu galw i ffatri British Sawmills, Boys and Boden, masnachwyr y diwydiant adeiladu, ar Lôn y Felin am 1.46pm ddydd Mawrth.

Anfonwyd chwe injan ac un injan arbenigol.

Y gred yw bod y tân wedi dechrau mewn gwyntyll ond fe ledodd a chwympodd rhan o'r adeilad.

Chafodd neb ei anafu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.