Wrecsam yn dal ar y brig

Image copyright Other

Wrecsam 2-0 Southport

Mae Wrecsam yn dal i arwain Uwchgynghrair Blue Square ar ôl iddynt guro Southport o ddwy gôl i ddim ar y Cae Ras nos Fawrth.

Mae'r fuddugoliaeth yn ddigon i gadw Wrecsam ar frig y tabl, tri phwynt yn glir o Fleetwood.

Bellach mae Wrecsam heb golli dim un o'u 15 gêm ddiwethaf.

Bu raid i Wrecsam aros tan funud ola'r hanner cyntaf cyn mynd ar y blaen pan sgoriodd Jake Speight o'r smotyn wedi i Steve Akrigg droseddu yn erbyn Danny Wright yn y cwrt cosbi.

Adrian Cieslewicz sgoriodd ail gôl Wrecsam 12 munud cyn diwedd y gêm pan rwydodd o du fewn y cwrt cosbi yn dilyn pas gan Mathias Pogba.

Ond bu rhaid i gôl geidwad y tîm cartref, Joslain Mayebi, wneud nifer o arbedion gwych i sicrhau'r tri phwynt i'r Dreigiau.

Image copyright Other

Alfreton 3-2Casnewydd

Mae gôl Nathan Jarman yn y funud olaf i Alfreton yn erbyn Casnewydd wedi rhoi ergyd i obeithion yr Alltudion i aros yn Uwchgynghrair y Blue Square.

Sgoriodd Elliott Buchanan i Gasnewydd wedi pedair munud o'r ornest ond fe ddaeth Alfreton yn gyfartal ar ôl 28 munud wrth i Anthony Church benio i'r rhwyd.

Aeth y tîm cartref ar y blaen pan rwydodd Kake Moult gydag ergyd o chwe llath ar ôl 38 munud.

Daeth Casnewydd yn gyfartal pam sgoriodd Gary Warren chwarter awr ar ôl yr egwyl ond roedd gôl Jarman yn ddigon i gipio'r tri phwynt i Alfreton,

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn disgyn i'r 19eg safle.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.WRECSAM 23 24 50
2. Fleetwood 22 18 47
3. Caerefrog 24 27 44
4. Southport 24 2 44
5. Caergrawnt 23 12 40
-----------------------------------------------------------------------------------------
19.CASNEWYDD 24 -6 22
21. Hayes a Yeading 23 -15 20
22.Stockport 24 -16 19
23.Alfreton 24 -29 17
24. Caerfaddon 24 -23 13

Ar ôl gemau nos Fawrth Rhagfyr 6