Gwasanaeth galw heibio dros yr ŵyl

Fan Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel Image copyright Other
Image caption Bydd y gwasanaeth yn cael ei lansio ddydd Mercher

Mae gwasanaeth galw heibio ar gyfer pobl fydd yn dathlu yn Abertawe dros Ŵyl y Nadolig yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd plismyn, nyrsys a pharafeddygon ar gael i helpu pobl mewn cerbyd galw heibio yn y ddinas.

Bydd y rheiny sydd wedi yfed gormod o alcohol yn cael help i sobri cyn teithio adref yn ddiogel.

Bydd y gwasanaeth galw heibio ar gael yn Sgwâr y Castell o 10pm ymlaen ar Ddydd Mercher, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn o ddydd Mercher, Rhagfyr 7, tan ddydd Calan.

Gwasanaeth cymorth cyntaf

Dywedodd Jeff Davison, aelod o Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel sy'n rheoli'r cynllun: "Mae'r gwasanaeth galw heibio yn cael ei gynnal dros y Nadolig i ddarparu mwy o gymorth i ymwelwyr a phobl sy'n gweithio yn ystod y nos.

"Bydd y gwasanaeth yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr a galluogi'n staff i gynnig help i'r rheiny sydd ei angen."

Yn ogystal â helpu pobl i sobri bydd y staff yn cynnig gwasanaeth cymorth cyntaf i drin mân anafiadau.

Hefydd bydd y gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth am sut i ganfod gwestai, tacsis a pheiriannau darparu arian parod.

Bydd gan y fan llefydd i eistedd a bwrdd ac fe fydd poteli o ddŵr ar gael ar gyfer ymwelwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.