Beiciwr Paralympaidd: Dyn yn y llys

Simon Richardson Image copyright BBC news grab
Image caption Ni fydd Simon Richardson wedi gwella digon i gystadlu yn Llundain yn 2012

Mae gyrrwr sydd wedi ei gyhuddo o adael gwrthdrawiad lle cafodd beiciwr paralympaidd anafiadau difrifol wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Enillodd Simon Richardson, 44 oed o Borthcawl, ddwy fedal aur ac un arian yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008.

Bu'n rhaid ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi iddi ymddangos iddo gael ei daro gan gerbyd yn gynharach eleni.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48 ger Pen-y-bont ar Ogwr ar Awst 17.

Tair blynedd

Bydd Richardson, a gafodd yr MBE am ei lwyddiant ar y beic, yn methu'r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012 o ganlyniad i'r digwyddiad.

Mae meddygon wedi dweud wrtho y gallai gymryd hyd at dair blynedd cyn y bydd wedi gwella'n llwyr.

Honnir mai Edward Adams, 60 oed o'r Bontfaen, oedd yn gyrru'r fan Peugeot Partner yn y digwyddiad.

Fe ymddangosodd gerbron Ynadon Y Barri ddydd Mercher i wynebu cyhuddiadau o yrru'n beryglus, yfed a gyrru ac o beidio stopio wedi damwain.

Penderfynodd yr ynadon i beidio â delio gyda'r mater eu hunain ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan Ionawr 18 yn yr un llys.

Y tro nesaf i Mr Adams ymddangos, fe fydd yr achos yn cael ei yrru'n ffurfiol gerbron Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.