C&A: Llywodraeth Cymru i ddatgelu bandio ysgolion

  • 8 Rhagfyr 2011
Disgybl yn gweithio
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad ydyn nhw'n ailgyflwyno tablau cynghrair

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu eu ffordd newydd o raddio ysgolion, mae gohebydd addysg BBC Cymru, Ciaran Jenkins, yn egluro sut y bydd yn gweithio.

BETH YW HYN?

Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael eu gosod (Ddydd Iau) mewn grŵp bandio o rhwng un a phump.

Dyma ddull asesu Llywodraeth Cymru o berfformiad ysgolion yn y flwyddyn academaidd 2010-11.

Band un yw'r gorau a phump yw'r gwaethaf.

Dywed y llywodraeth mai'r bwriad yw adnabod ysgolion sydd angen cefnogaeth ac ysgolion lle gellir dysgu gwersi oddi wrthyn nhw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dydyn nhw ddim wedi ailgyflwyno tablau cynghrair ysgolion a gafodd eu diddymu yng Nghymru yn 2001.

Mae'r system yma wedi ei feirniadu yn hallt gan undebau athrawon.

BETH SY'N CAEL EI ASESU?

Mae'r bandio yn gweithio drwy asesu perfformiad ysgolion o fewn pedwar categori eang i greu sgôr terfynol.

- canran y disgyblion sy'n ennill pum gradd A* i C mewn arholiadau TGAU gan gynnwys Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg

- yr 8 TGAU gorau gan ddisgyblion

- perfformiad disgyblion TGAU yn Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg*

- presenoldeb

O fewn pob categori, mae sgôr ysgolion yn cael ei addasu i ystyried canran y disgyblion sy'n deilwng o brydau ysgol am ddim. Mae hyn yn caniatáu'r sialensiau o gynnal ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae'r rhan fwyaf o gategorïau hefyd yn ystyried cynnydd ysgolion dros gyfnod o amser er mwyn gwobrwyo ysgolion sy'n gwneud gwelliannau mewn perfformiad.

Mae hyn yn golygu, o fewn y pedwar categori eang bod ysgolion yn cael eu marcio ar 11 mesur gwahanol.

SUT Y MAE YSGOLION YN CAEL SGOR TERFYNOL?

Ar gyfer pob un o'r 11 mesur mae pob ysgol yng Nghymru yn cael eu rhestru ar sail sgôr o'r ucha' i'r gwaelod.

Mae ysgolion yn y chwarter ucha' yn derbyn un pwynt, yn yr ail chwarter yn derbyn dau bwynt, yn y trydydd yn derbyn tri phwynt ac yn y pedwerydd chwarter, pedwar pwynt.

Mae hyn yn golygu bod ysgol â marc isel yn well nag ysgol â sgôr uchel.

Mae pwyntiau pob ysgol yn cael ei gyfri i greu ysgol cyflawn i bob ysgol.

Y sgôr gorau all ysgol ei dderbyn yw 11, gan olygu y bydd yn y chwarter ucha' ym mhob un mesur.

Y sgôr gwaetha yw 44 gan olygu bod yr ysgol yn y chwarter isa' ym mhob un mesur.

SUT Y MAE'R SGOR YN CAEL EI DDEFNYDDIO I CREU BANDIAU?

Mae swyddogion y llywodraeth wedi rhannu amrywiaeth o sgôr syml drwy greu pum ffin o fewn y pum band.

  • Band 1 o 11 i 17.6
  • Band 2 o 17.6 i 24.2
  • Band 3 o 24.2 i 30.8
  • Band 4 o 30.8 i 37.4
  • Band 5 o 37.4 i 44

Er mwyn osgoi'r cyhuddiad eu bod yn gosod ysgolion mewn unrhyw fath o drefn, fydd Llywodraeth Cymru ddim yn cyhoeddi sgôr pob ysgol unigol, dim ond y band y mae ynddo.

Mae'n golygu y bydd ysgol ar frig Band 5 yn dal i wynebu'r stigma o fod yn y band isaf, hyd yn oed, mewn gwirionedd gall y perfformiad olygu ei fod yn agosach at fod yn ysgol Band 4.

* Dyma 'brif fesur' y llywodraeth ac mae'n cael ei ystyried i fod y dangosydd gorau o berfformiad yr ysgol. Yn gryn, mae disgybl yn gadael yr ysgol gyda phum gradd A * i C yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg yn cael ei ystyried i fod mewn sefyllfa gymharol gref.

Dyna pam yr ydym wedi dewis cyflwyno'r wybodaeth hon, ynghyd â'r band ysgol a gynhyrchwyd gan y llywodraeth. Mae'r wybodaeth ar hyn o bryd ar gyfer canlyniadau arholiadau yn 2010 a byddwn yn diweddaru'r data i adlewyrchu canlyniadau arholiadau 2011 pan fydd ar gael.