AS: Barnu cais 'streiciwch nawr talwch wedyn'

Protestio ym Mangor Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bu dros 200 o streicwyr yn protestio ym Mangor

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi barnu undebau am annog awdurdodau lleol i oedi cyn tynnu diwrnod o gyflog y rheiny fu ar streic tan y flwyddyn newydd.

Mae Guto Bebb, AS Aberconwy yn honni fod cynghorau Gwynedd a Chonwy wedi cytuno i gais "streiciwch nawr, talwch wedyn".

Dywedodd fod y syniad i ddefnyddio arian y trethdalwr yn y modd hwn yn "sgandal".

Dywedodd Cyngor Conwy fod strwythur eu system gyflogau yn golygu na allan nhw dynnu'r arian o gyflogau streicwyr tan fis Ionawr a dywedodd Cyngor Gwynedd ni fydden nhw'n cynnig unrhyw sylwadau ar y mater tan iddynt hysbysu eu staff.

System gyflogau

Cadarnhaodd Cyngor Ynys Môn eu bod wedi derbyn cais gan undebau ond nad oeddent wedi gwneud unrhyw benderfyniad eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Bydd y cyngor yn gwneud datganiad i'w staff cyn bo hir i'w hysbysu am y trefniadau i dynnu cyflog yn sgil streic Tachwedd 30.

"Felly, ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach tan fydd staff yn cael gwybod am y trefniadau hyn."

Honnodd Mr Bebb fod Cyngor Gwynedd yn bwriadu tynnu'r arian o gyflogau streicwyr ym mis Chwefror 2012.

Dywedodd Cyngor Conwy fod eu tîm gweithredol wedi ystyried "gweithgaredd ymarferol system gyflogau'r awdurdod" cyn penderfynu tynnu arian o gyflogau'r streicwyr ym mis Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy fod yr awdurdod yn talu eu staff ar 15fed diwrnod y mis ac o ganlyniad nid oedd digon o amser i wneud y cyfrifiadau cywir ym mis Rhagfyr.

Honnodd Mr Bebb fod yr undeb Unsain yn un o'r undebau oedd wedi annog yr awdurdodau lleol i oedi.

'Sgandal'

Dywedodd Unsain nad oedd polisi canolog ganddynt ynghylch y mater hwn ond ei fod yn bosib fod swyddogion yn gwneud ceisiadau ar lefel leol.

"Mae hyn yn sgandal. Mae'n warthus bod yr undebau wedi gofyn i'r awdurdodau i wneud hyn sy'n golygu mai trethdalwyr sy'n talu am y streic.

"Mae hyn yn cynnig yr opsiwn o streicio nawr, talwch wedyn i weithwyr sy'n mynd ar streic.

"Mae nifer o rieni naill ai wedi colli tâl am ddiwrnod o waith neu wedi gorfod talu llawer o arian i dalu am gostau gofal plant oherwydd bod athrawon wedi mynd ar streic. Pwy sy'n mynd i'w digolledu nhw?

"Mae arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i leddfu'r gost o aelodau undebau yn streicio."

Dywedodd Dominic MacAskill, Prif Swyddog Ymgyrch Pensiynau Unsain: "Byddai'n llawer gwell pe byddai Guto Bebb yn defnyddio'i amser i amddiffyn gweithwyr y sector cyhoeddus yn ei etholaeth rhag cyrch pensiynau'r Llywodraeth gwerth biliynau o bunnau sy'n cyfateb i godi trethi'r garfan hon o weithwyr o 3%."

Ymunodd 170,000 o weithwyr yng Nghymru â'r streic undydd ar Dachwedd 30 fel rhan o weithred ddiwydiannol ynghylch newidiadau i bensiynau.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru am eu cynlluniau ynglŷn â phryd yr oedden nhw'n bwriadu tynnu arian o gyflogau streicwyr.

Dywedodd Cyngor Wrecsam y byddan nhw'n tynnu arian o gyflogau streicwyr ym mis Ionawr am mai dyna'r gynharaf y gallan nhw wneud hyn.

Yn ôl Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Phowys y byddan nhw, hefyd, yn tynnu arian o gyflogau streicwyr ym mis Ionawr.

Ond dywedodd Cyngor Sir Penfro y byddan nhw'n cyflawni'r weithred ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf nad oeddent wedi derbyn unrhyw gais gan undebau ynghylch tynnu arian o gyflogau streicwyr ond na fyddai'r weithred yn cael ei gyflawni tan y flwyddyn newydd.

Yn ôl Cyngor Ceredigion ni fyddan nhw'n gallu cyflawni'r didyniadau tan y flwyddyn newydd.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn eu bod wedi derbyn cais gan undebau ond nad oeddent wedi gwneud unrhyw benderfyniad eto.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.