Jeyes: Pryder am ddyfodol ffatri

Ffatri Jeyes yn y Wyddgrug Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r ffatri yn cynhyrchu nwyddau glanhau

Mae cwmni cynnyrch glanhau wedi datgan y gall 155 o swyddi gael eu colli yn eu ffatri yn Yr Wyddgrug.

Mae Jeyes yn ymgynghori â staff sy'n gweithio yn y safle ar Ystâd Diwydiannol Bromfield.

Dywed y cwmni eu bod yn ystyried cau'r ffatri, sydd wedi bod yn cynhyrchu nwyddau glanhau yno er 1979.

Y disgwyl yw i ganlyniadau'r arolwg gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2012.

Dywedodd Nicholas Goodwin, prif swyddog cyllid y cwmni: "Gall yr arolwg awgrymu y dylai'r ffatri yn Yr Wyddgrug aros ar agor.

"Ond mae'n bosib y bydd rhaid i ni gau'r ffatri a throsglwyddo ein busnes i rywle arall bydd yn golygu y bydd 155 o swyddi yn cael eu colli yn Yr Wyddgrug.

"Rydyn ni'n deall y bydd hyn yn achosi pryder ymysg ein staff teyrngar a'r gymuned leol.

"Rydyn ni, fel llawer o fusnesau eraill, yn wynebu hinsawdd economaidd anodd a chystadleuaeth brwd gan gwmnïau eraill felly mae'n rhaid i ni ystyried opsiynau anodd i sicrhau cyflwr y busnes yn y dyfodol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.