Gwahardd plismones o'i gwaith

Mae plismones Heddlu Dyfed Powys wedi ei gwahardd o'i gwaith wedi iddi gael ei chyhuddo o fwrgleriaeth.

Cafodd ei harestio a'i chyhuddo wedi digwyddiad honedig yn Casino Aspers, Wind Street, Abertawe.

Heddlu De Cymru arestiodd hi am 10.50pm ddydd Sul, Hydref 2, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth cyn ymddangos gerbron llys ar ddyddiad i'w bennu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod un o'u plismyn wedi ei hatal o'i gwaith wedi "honiadau am ymddygiad tra nad oedd ar ddyletswydd".

'Ymchwilio'

"Cafodd yr honiad, sydd yn droseddol o ran natur, ei ymchwilio ac mae'n cael ei ystyried gan Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

"Cyfeiriodd Heddlu Dyfed-Powys y mater i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu a benderfynodd fod y mater yn gymwys ar gyfer ymchwiliad ar lefel leol."

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Cafodd menyw 33 oed ei harestio ac, yn ddiweddarach, fe'i cyhuddwyd o fwrgleriaeth cyn cael ei rhyddhau ar fechnïaeth."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.