Abertawe 2-0 Fulham

Scott Sinclair Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Scott Sinclair yn dathlu ei gôl

Goliau Scott Sinclair a Danny Graham yn yr ail hanner oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth yr Elyrch yn erbyn Fulham ddydd Sadwrn.

Ond roedd y gôl-geidwad Michel Vorm yn allweddol wrth i Abertawe sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm.

Fe arbedodd Vorm gic o'r smotyn gan Clint Dempsey, gan sicrhau iddo beidio ildio gôl mewn gêm am y seithfed tro'r tymor hwn.

Rhoddodd Sinclair yr Elyrch ar y blaen pan gafodd ei ergyd o ddeg llath ei dargyfeirio i'w rhwyd ei hun gan Dempsey.

Fe wnaeth Vorm arbed cic o'r smotyn gan yr Americanwr yn dilyn trosedd Jazz Richards cyn i'r eilydd Danny Graham sgorio oddi ar gic gornel Mark Gower yn yr amser a ganiateid ar gyfer anafiadau.

Mae'r Elyrch bellach yn unfed-ar-ddeg yn y tabl.

Tabl yr Uwchgynghrair

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester City 14 +35 38
2. Manchester United 15 +21 36
3. Tottenham 14 +12 31
4. Arsenal 15 +8 29
-----------------------------------------------------------------------------------------
11. ABERTAWE 15 -4 17

Dydd Sul, Rhagfyr 11, 2011.