Millwall 0-0 Caerdydd

Joe Ralls o Gaerdydd yn brwydro gyda Liam Trotter o Millwall Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Joe Ralls o Gaerdydd yn brwydro gyda Liam Trotter o Millwall

Mae Caerdydd nawr yn ddiguro mewn naw gêm yn y Bencampwriaeth yn dilyn gêm ddi-sgôr oddi cartref yn Millwall.

Daeth Peter Whittingham a Joe Ralls yn agos i rwydo yn gynnar ar gyfer tîm Malky Mackay.

James Henry gafodd cyfle gorau Millwall pan darodd y trawst, ac fe wnaeth yr eilydd Darius Henderson benio dros y trawst yn hwyr yn y gêm.

Mae Caerdydd, sydd ddim wedi ennill yn Millwall am 29 mlynedd, yn parhau yn drydydd yn y Bencampwriaeth.