Cymru yn ennill y plât

Owen Williams Image copyright Getty Images
Image caption Owen Williams yn sgorio cais i Gymru

Mae Cymru wedi ennill y plât yng nghystadleuaeth ddiweddara'r gyfres saith-bob-ochr yn Ne Affrica, yn dilyn buddugoliaeth nodedig 48-0 yn erbyn Fiji.

Owen B Williams sgoriodd ddau o wyth cais Cymru yn erbyn Fiji.

Sgoriwyd y ceisiau eraill gan Owen P Williams, Tom Habberfield, Alex Walker, Rhys Shellard, Harry Robinson a Rhys Patchel.

Dywedodd capten Cymru Richie Pugh: "Mae rhwystro Fiji rhag cael yr un pwynt yn un peth, ond mae sgorio cymaint â hynny yn rhyfeddol".

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tom Prydie yn sgorio un o saith cais Cymru yn erbyn Zimbabwe

Roedd Cymru wedi maeddu Ffrainc 24-20 yn y rownd gynderfynol ar ôl colli i Samoa yn rownd go-gynderfynol y Cwpan.

Roedd Cymru wedi rhoi crasfa i Zimbabwe a Phortiwgal yng ngrŵp D cyn colli i Fiji.

Yna fe gafwyd y golled yn erbyn Samoa 21-12.