Llofruddiaeth: Menyw 23 oed yn y ddalfa

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Roedd Emma Louise Jones yn fam ac yn 31 oed

Mae menyw 23 oed wedi bod gerbron Ynadon Caernarfon ar gyhuddiad o lofruddio Emma Louise Jones ym Mhenygroes, Gwynedd, dros y penwythnos.

Cafodd Alwen Eluned Jones, 23 oed o Lanllyfni, ei chadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fore Mawrth.

Yn gynharach daeth cadarnhad gan yr heddlu fod Ms Jones, 31 oed, wedi marw o ganlyniad i gael ei thrywanu.

Mae dyn a menyw arall a gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth.

Dydd Sul roedd arbenigwyr fforensig yn y fflatiau yn ardal Trem Yr Wyddfa wedi i Ms Jones gael ei chyhoeddi'n farw yn yr ysbyty.

Mae'r crwner wedi ei hysbysu ac mae swyddog cyswllt teuluol yn cefnogi teulu Ms Jones ar hyn o bryd.

Mae teyrngedau i Ms Jones ar dudalen arbennig ar y wefan gymdeithasol, Facebook.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.