Tân yng ngwaith dur Llanwern

Gwaith dur Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ni ledodd y tân i'r felin boeth yn y ffatri yn Llanwern

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yng ngwaith dur Llanwern am hanner nos nos Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân na chafodd neb ei anafu.

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni dur Tata, roedd y tân mewn peirianwaith ar y lein.

Mae gwaith ar y lein honno wedi cael ei atal ond mae gweddill y safle yn dal i weithio.

Dywedodd y llefarydd mewn datganiad: "Deliwyd â'r digwyddiad yn drylwyr a gallaf gadarnhau na fu anafiadau.

"Doedd dim perygl i'r gymuned. Roedd y tân ar un o linellau gweithio Llanwern ac mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân."