Diogelu dyfodol trysorau hanesyddol

Tafarn y Saith Seren, Wrecsam Image copyright Other
Image caption Mae yna gynlluniau i droi Tafarn y Saith Seren yn ganolfan Gymraeg

Diogelu dyfodol adeiladau hanesyddol ardal Wrecsam yw nod cynllun gweithredol newydd gan y cyngor lleol.

Maen nhw wedi cyhoeddi adolygiad o'r holl dafarndai, cofebion, arwyddion a mynwentydd graddedig sydd o dan fygythiad a'r hyn maen nhw am wneud i ddiogelu eu dyfodol.

Yn ôl un arbenigwr hanesyddol, mae yna rhwng 2,500 a 3,000 adeilad o'r fath o dan fygythiad yng Nghymru.

I gyd-fynd â chanllawiau Cadw, mae Cyngor Wrecsam wedi gosod adeiladau'r sir mewn pedwar categori, o 'risg difrifol' i 'fregus'.

Ymhlith y rhai o dan y bygythiad mwya' y mae'r Dymock Arms ym Mhenley a ddifrodwyd gan dân, a'r tŷ injan weindio fertigol ym mhwll glo Wynnstay.

Yn yr adroddiad, dywedodd pennaeth cymunedau'r cyngor, Lawrence Isted: "Mae'n anochel bod gwaith cynnal a chadw yn mynd i gostio ac aflonyddu llai na gwaith atgyweirio mawr - o ran arian a hefyd colli deunydd a nodweddion traddodiadol.

Cynnal a chadw

"Pan mae adeiladau hanesyddol yn cael eu gadael i ddifrodi, gall y dadfeiliad o'r ffabrig gwreiddiol ddilyn yn gyflym iawn, sy'n aml yn arwain at yr angen am atgyweiriad llawn."

Cyhoeddwyd hefyd bod Plas Newydd yn Rhiwabon mewn perygl mawr o gael ei golli, ynghyd â beddi yn eglwys Pob Saint, Gresffordd a thafarn y Saith Seren yn Wrecsam, sydd ill dau yn y categori 'risg'.

Yn eu strategaeth ar gyfer 2012-2016, mae'r cyngor felly am gysylltu â pherchnogion yr adeiladau dan sylw, gan hysbysebu pwysigrwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd a chreu sesiynau hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu traddodiadol.

Image copyright Other
Image caption Cafodd Castell Ruperra ger Casnewydd ei ddifrodi gan dân yn 1941

Yn ôl y cyngor, mae gwaith fel hyn wedi arwain at ostyngiad o 29% yn niferoedd yr adeiladau mewn perygl ers 2002.

Un fydd yn hapus i weld gwaith o'r fath yw'r awdur a hanesydd pensaernïol, Mark Baker.

Mae o wedi ymgyrchu dros ddyfodol sawl hen adeilad graddedig, gan nodi bod 400 o'r 1,000 o blastai hanesyddol Cymru wedi eu colli dros y 50 mlynedd diwethaf.

Er hynny, mae o'n poeni mai'r awdurdodau lleol sydd â'r baich o ddelio ag adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl o ddiflannu pan nad yw eu perchnogion â'r gallu i'w cynnal.

'Diffyg annibyniaeth'

"Y drafferth yw, mae'r system yn sylfaenol anghywir yng Nghymru gan nad oes gennym gorff treftadaeth fwy annibynnol fel English Heritage a Historic Scotland," meddai arweinydd yr ymgyrch i achub plastai Hafodunos, Plas Dulas a Chastell Gwrych yng ngogledd Cymru.

"Dim ond gallu cynnig cyngor mae Cadw, ond mae English Heritage yn gallu gwneud pryniadau gorfodol a rhoi eu sylwadau ar gynlluniau."

Hoffai weld newid yng Nghymru, gan dynnu'r baich oddi ar yr awdurdodau lleol i ddiogelu dyfodol adeiladau hanesyddol, yn enwedig gyda'r trafferthion ariannol presennol.

"Yn ne Cymru, mae gennym Gastell Ruperra.

"Ond wrth i drafodaethau rhwng y perchennog a'r awdurdod lleol droi mewn cylchoedd, mae'r castell yn dadfeilio mwy a mwy," meddai.

"Cyn bo hir dim ond tomen o rwbel Gradd II fydd ar ôl.

"Mae cestyll a phlastai Cymru wedi chwarae rhan mor bwysig yn ein hanes ni, fedrwn ni ddim gadael iddyn nhw ddiflannu," ychwanegodd.

"Mae Plas Teg (ger Yr Wyddgrug), Bodysgallen (Llandudno) a Chastell Penhow (ardal Casnewydd) i gyd yn enghreifftiau o adeiladau sydd wedi cael eu hatgyweirio mewn ffyrdd gwych."

Mae'r adroddiad hefyd yn crybwyll nod Cadw o adolygu holl adeiladau hanesyddol Cymru bob pum mlynedd, gan gynnal rhestr ar-lein i'r wlad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.