Damwain: Pedwar yn yr ysbyty

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd y ddamwain brynhawn Mercher

Mae pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng bws a char brynhawn Mercher.

Roedd y ddamwain yn Aberdâr ger archfarchnad Asda wrth gyffordd yr A4059 a'r B4275.

Cafodd dau eu torri'n rhydd o'r car Fiesta wedi i ddau griw o ddiffoddwyr o'r dre ac uned arbenigol o Ferthyr gyrraedd.

Roedd yr heol ar gau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio.