Tân ysgubor: 30 o ddiffoddwyr

Mae oddeutu 30 o ddiffoddwyr a phum injan dân yn ceisio taclo tân mewn ysgubor ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5:17pm ddydd Iau i fferm Longlands yn Hendomen ger Trefaldwyn.

Mae'r ysgubor - adeilad unllawr sy'n mesur 30metr wrth 20 metr - yn llawn o 250 o fyrnau gwellt.

Fe gafodd peiriannau tân o Drefaldwyn, Y Trallwng a'r Drenewydd eu gyrru i'r safle.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod asbestos yn bresennol yn nho'r adeilad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.