Heddlu: Rhybudd am gar du

Car Heddlu Image copyright Other

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi nifer o ddigwyddiadiau'n ymwneud â char bach du yn ardal Aberystwyth.

Mae'r bobl yn y car wedi mynd at nifer o ferched ysgol ifanc o ddwy ysgol gyfun a chynnig lifft iddyn nhw.

Roedd y merched wedi gadael y safle ar unwaith.

Dywedodd yr Arolygydd Rose Ann Lloyd: "Rydym yn siarad â nifer o ferched ysgol ifanc sydd wedi cysylltu oherwydd digwyddiadau tebyg.

"Unwaith y byddwn wedi gorffen yr holi cymhleth, byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion.

"Hoffai Heddlu Dyfed Powys dawelu ofnau'r gymuned gan ein bod yn defnyddio nifer o ddulliau i adnabod y cerbyd a'r bobl sydd ynddo ac rydym yn apelio at bobl i gysylltu gyda ni."

Dylai unrhyw un welodd gar bach du - o bosib Renault Clio - a phobl yn ymddwyn yn amheus ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.