Cerddwr wedi marw ar fynydd

Hofrennydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cludodd hofrennydd Sea King o'r Fali dimau achub

Mae cerddwr yn ei dridegau wedi marw oherwydd anafiadau i'w ben ar ôl cwympo 500 o droedfeddi ar Fynydd y Garn uwchben Dyffryn Ogwen yn Eryri.

Fe gafodd timau achub eu galw ychydig wedi 2pm brynhawn Sadwrn.

Roedd hofrennydd Sea King o Ganolfan yr Awyrlu yn y Fali wedi cludo Tîm Achub Dyffryn Ogwen ac un yr Awyrlu i fan lle gallai lanio 2,000 o droedfeddi i fyny'r mynydd.

Dywedodd Chris Lloyd o Dîm Achub Dyffryn Ogwen: "Mi oedd y dyn wedi cyfarfod dwy fyfyrwraig ac wedi trafod y ffordd ora i lawr.

"Ond mi gerddodd y tri ar hyd darn o eira gan feddwl mai tir cadarn oedd o.

'Sgubo'

"Mi gafodd cwymp eira ei achosi ac mi gafodd y dyn a myfyrwraig eu sgubo i lawr."

Ni chafodd y fyfyrwraig ei hanafu, meddai.

"Mae hyn yn anffodus iawn ond mae'n hawdd gwneud y camgymeriad - meddwl bod darn o eira'n gadarn.

"A deud y gwir, mae'n drychinebus yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Rhywle ni fydd anrhegion yn cael eu hagor o dan y goeden Nadolig."

Arweinydd mynydd roddodd wybod i'r gwasanaethau brys, meddai.

"Mi abseiliodd i lawr a mynd â'r ferch i dir diogel ond pan aeth o'n ôl i'r dyn mi oedd o wedi marw."