Argyfwng gofalwyr maeth yng Nghymru

Plant yn chwarae
Image caption Mae 4,300 o blant gyda 3,000 o ofalwyr ar unrhyw ddiwrnod yng Nghymru

Mae angen 550 o ofalwyr maeth ychwanegol dros y misoedd nesaf i osgoi argyfwng difrifol yn 2012 yn ôl un elusen o'r maes.

Yn ffigyrau diweddaraf y Rhwydwaith Maethu mae cynnydd o 19% wedi bod yn niferoedd y plant yng Nghymru sydd angen y gwasanaeth ers 2009.

Mae nifer sylweddol o'r gofalwyr maeth hefyd yn hŷn, gyda 14% yn ymddeol yn flynyddol.

Yn ôl yr elusen, heb y cymorth ychwanegol yma bydd gormod o blant yn gorfod gwneud y gorau o fynd i fyw gyda gofalwyr ym mhell o'i chartrefi, neu rhai sydd heb le i'w brodyr a chwiorydd.

Bydd eraill yn wynebu gorfod aros mewn gofal cymdeithasol er mai gofal maeth yw'r opsiwn cywir ar eu cyfer.

'Angen teulu'

Dywedodd Freda Lewis. Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu, "Mae'r ffigyrau yma yn ofnus. Gallwn wynebu wir argyfwng wrth i ni geisio cynnig y gofal mwyaf priodol i'r plant sydd ddim yn gallu byw gyda'u teuluoedd.

"Mae pob plentyn mewn gofal angen teulu wrth dyfu fyny bydd yn eu caru, yn uchelgeisiol ar eu rhan ac yn cymorth iddynt gyflawni eu potensial.

"Am nifer cynyddol, gofal maeth yw'r opsiwn gorau."

Dywedodd Freda Lewis fod angen gofalwyr ledled Cymru, yn enwedig rhai ieuengach.

'Gwobrau bach'

Yn eu plith y mae Sally Orme, 43, o Dorfaen. Penderfynodd hi a'i gwr David, 36, i hyfforddi fel gofalwyr maeth yn 2009 ac mae hi'n falch iawn iddynt wneud hynny.

"Ni'n cael gwobrau bach pob dydd, a fi'n siŵr bydd hynny'n parhau dros y blynyddoedd," meddai'r nyrs seiciatrig

"Fi'n dod o dref fach yn ne Cymru, ac mae fy ngŵr yn dod o ganol Manceinion.

"Ond roedd y ddau ohonom wedi cael profiad o deuluoedd gofal maeth o'n cwmpas fel plant, a dyna'r un o'r pethe cyntaf i ni drafod wrth ddod at ein gilydd.

"Ni wedi rhoi gofal i dri phlentyn hyd yn hyn, a bydd un eneth fach yn aros gyda ni yn hir dymor."

Mae gan y pâr ddau o blant sy'n ddigon bodlon ar dderbyn plant newydd i'r tŷ, er mae Sally yn meddwl byddai'n anodd cynnig digon o amser petai hi a'i gwr yn gweithio yn llawn amser.

"Collodd David ei waith, ac felly fo sy'n aros adref a fi sy'n gweithio'n llawn amser," meddai. "os ddim, bydde'n anodd dros wyliau ysgol ac yn y blaen. Ond dwi'n siŵr gall rhai pobl ymdopi gyda hynny.

"Hefyd, mae'r cyngor wedi torri'r arian ni'n derbyn eleni, ond ni dal yn cael digon o arian i edrych ar ôl y plant.

"Fi'n annog unrhyw un i feddwl am fod yn ofalwr maeth, cant y cant. Roedd yr hyfforddiant braidd yn frawychus, wrth iddynt sôn am bopeth all mynd yn anghywir. Ond jest egluro'r senario gwaethaf yw hynny. Fi wir yn cael boddhad o'r jobyn 'ma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.