Cerddwr wedi marw wedi gwrthdrawiad â bws

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod cerddwr gafodd ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad â bws yn Abertawe wedi marw.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y dyn wedi ei achub o dan y bws wedi'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Ffordd Fabian am 10.44am ddydd Llun.

Cafodd 10 o bobl oedd yn teithio ar y bws driniaeth am sioc.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod i draffig oedd yn teithio i'r ddinas o Jersey Marine.

Roedd y ffordd wedi cael ei hail agor erbyn tua 1:40pm ddydd Llun.

Cafodd y dyn, sydd ddim wedi ei enwi eto, driniaeth yn yr ysbyty ond bu farw yno.

Mae disgwyl i Heddlu De Cymru ryddhau mwy o wybodaeth yn ddiweddarach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.