Ymchwilio i farwolaeth ffarmwr

Mae dyn 76 oed a ddarganfuwyd yn farw mewn tŷ yn Swydd Gaergrawnt wedi cael ei enwi gan yr heddlu.

Roedd Llywelyn Thomas, ffarmwr wedi ymddeol o dde Cymru, wedi marw oherwydd anafiadau i'w ben a'i wyneb, fe ddangosodd profion post-mortem.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Chittering ddydd Sul lle daethpwyd o hyd i gorff Mr Thomas.

Credir bod ei gar Rover wedi cael ei ddwyn ddydd Sadwrn cyn cael ei ddarganfod ddydd Llun yn Milton.

Ganed Mr Thomas yn Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd, ond bu'n byw yn Swydd Gaergrawnt am tua 10 mlynedd.

Bu'n ffermio yn ardaloedd Cefn Cribwr a Margam.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am ei farwolaeth.