Dadlwytho 3,000 o deiars: Arestio dau

Y domen deiars yng Nglan Conwy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed asiantaeth yr amgylchedd fod y domen wedi achosi peryg o dân a llygredd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddadlwytho mwy na 3,000 o deiars yn anghyfreithlon yng Nghonwy yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Cafodd y ddau ddyn, 63 oed a 35 oed, eu harestio ar ôl i swyddogion yr asiantaeth a'r heddlu apelio am wybodaeth ynghylch y domen yng Nglan Conwy'r wythnos diwethaf.

Mae'r ddau ddyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod mwy o ymchwiliadau yn cael eu cynnal.

Dywed yr asiantaeth fod y domen wedi achosi peryg o dân a llygredd ac wedi cael ei diddymu.

Chwarae teg

Dywedodd yr asiantaeth fod y teiars wedi cael eu gadael mewn garej ger cartrefi, Moryd Conwy, rheilffordd dyffryn Conwy a ffordd yr A470 sy'n cysylltu Llandudno â Chaerdydd.

Bu rhaid i gontractwyr yr asiantaeth treulio dau ddiwrnod i glirio'r safle.

"Petai'r teiars wedi mynd ar dân byddai mwg gwenwynig wedi llygru'r aer, byddai bywyd gwyllt ym Moryd Conwy wedi dioddef, a gallai'r rheilffordd a'r ffordd A470 wedi cael eu cau tan i'r tân gael ei ddiffodd," meddai Sian Williams o'r asiantaeth.

Ychwanegodd fod yr asiantaeth yn ymchwilio i unrhyw adroddiad ynghylch trosedd gwastraff i sicrhau bod pob busnes yn y maes yn cael chwarae teg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.