Carcharu dyn wedi marwolaeth cefnogwr

Michael Dye Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Michael Dye anafiadau angheuol cyn y gêm yn Wembley fis Medi

Mae Ian Mytton o Redditch, Sir Caerwrangon, wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ddynladdiad cefnogwr pêl-droed o Gymru.

Bu farw Michael Dye, 44 oed o Gaerdydd, y tu allan i Stadiwm Wembley cyn y gêm rhwng Lloegr a Chymru ym mis Medi.

Bydd yn rhaid i Mytton, 41 oed, dreulio o leiaf 18 mis o dan glo.

Cafodd ei wahardd am chwe blynedd rhag mynychu gemau pêl-droed.

Roedd Mr Dye, o Drelái, wedi mynd i Lundain i weld y gêm yng Nghystadleuaeth Rhagbrofol Ewro 2012.

Cafwyd hyd iddo y tu allan i Giât C Wembley ar Fedi 6 funudau cyn y gic gyntaf.

Roedd yn gweithio fel saer maen i Gyngor Caerdydd.

Mewn datganiad yn y llys, dywedodd Mrs Dye: "Ers i mi golli fy ngŵr, mae fy myd wedi bod yn deilchion.

"Mae wedi bod yn uffern ar y ddaear".

Ychwanegodd bod ei gŵr yn "arwr" i'w plant.

Straeon perthnasol