Mudiadau'n galw am enw Cymraeg

  • 23 Rhagfyr 2011
Baner Cymru
Mae un arolwg wedi dangos cefnogaeth gref i enw parth newydd i Gymru

Mae grŵp sy'n cynrychioli 20 o fudiadau sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ffafrio ".cymru" fel enw parth i Gymru ar y we.

Ysgrifennodd y grŵp - Mudiadau Dathlu'r Gymraeg - lythyr agored at Lywodraethau Cymru a'r DU yn mynegi pryder y gallai enw parth gwahanol gael ei fabwysiadu.

Daw'r llythyr ar yr un diwrnod ag y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg - Leighton Andrews - i sicrhau mai .cymru fydd y dewis.

O fis Ionawr, bydd corff rheoleiddio'r we, ICANN, yn caniatáu i wledydd wneud cais am enwau newydd.

Cefnogaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i gwmnïau sydd am wneud cais, ac wedi annog ceisiadau yn y ddwy iaith.

Ond mae ICANN yn codi tal o $185,000 (£116,045) am bob cais, ac yn gwrthod eithrio Cymru o hynny.

Go brin felly y bydd modd gwneud cais am ddau enw parth - un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg.

Dangosodd arolwg diweddar fod cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i gael enw parth i Gymru.

Ond tra bod mwyafrif y cyhoedd o blaid .cymru fel enw Cymraeg, .wales oedd y ffefryn ymhlith busnesau am eu bod yn credu y byddai hynny'n fanteisiol wrth geisio marchnata y tu allan i Gymru.

Mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sicr y dylai'r llywodraeth fod yn fwy cadarn o blaid yr enw Cymraeg.

'Cwbl allweddol'

"Mewn cyfnod ble mae'r rhyngrwyd yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth gyfathrebu a rhwydweithio, mae'n gwbl allweddol bod enw Cymraeg ein gwlad sef ".cymru" yn weladwy ar-lein, a hynny fel datganiad clir o'n hyder fel cenedl ddwyieithog," meddai'r llythyr gan Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.

"Byddai'n bryder mawr gennym weld sefyllfa'n datblygu a fyddai'n atal sefydliadau ac unigolion rhag defnyddio'r cyfeiriad ".cymru", gan na fyddai hynny yn rhoi'r rhyddid i ni gael cyfeiriadau ar-lein Cymraeg, nac yn adlewyrchiad cywir ohonom fel gwlad lle mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb.

"Hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn sicrhau bod ".cymru" yn dod yn weithredol yn y dyfodol agos."

Dywedodd Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mai "gwir hanfod sicrhau parth i Gymru oedd creu ardal i gymuned ieithyddol y Gymraeg, gweler ".cat" o Gatalonia fel enghraifft berffaith.

"Trwy ofyn am enw .wales byddai holl bwynt cael y parth yn cael ei golli.

"Fel mudiad rydym wedi ymgyrchu'n frwd dros sicrhau parth i Gymru ynghyd â mudiadau eraill.

"Mae felly yn peri cryn ofid i ni fod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad heb ymgynghori na thrafod gyda phobol Cymru."

'Achub y dydd'

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bod presenoldeb y Gymraeg ar y we yn bwysig iawn.

"Mae rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle hwn i wneud ein hiaith unigryw yn un weledol yn rhyngwladol.

"Mae Leighton Andrews wedi dangos cryn gefnogaeth i ddatblygu'r iaith ar-lein.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd e'n fodlon camu mewn i achub y dydd a sicrhau bod "dot cymru" yn digwydd.

"Mae'n fater pwysig i statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a'i delwedd ar draws y byd."

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cefnogi'r egwyddor o gael parth ar gyfer Cymru a'u bod nhw wedi gwahodd cynnigion trwy wefan buy4wales.

Bydd ICANN yn derbyn ceisiadau ar gyfer enwau parth newydd i'r we mewn proses fydd yn dechrau ar Ionawr 12, 2012.