Bygwth record teulu Abram Wood

David Jones gyda rhai aelodau o'i deulu Image copyright BBC news grab
Image caption Mae gan Mr Jones saith plentyn, 38 o wyrion a 34 o or-wyrion.

Roedd teulu Abram Wood yn chwedlonol o fawr ond gall teulu dyn o Geredigion fod hyd yn oed yn fwy.

Bydd rhaid i David Jones, 83 oed o Synod Inn, ger Cei Newydd, brynu cardiau Nadolig ac anrhegion i 79 o blant, wyrion a gor-wyrion.

Ac fe fydd gan y cyn-yrrwr loriau dri gor-ŵyr neu or-wyres arall cyn bo hir.

Mae'n cyfaddef ei bod yn anodd olrhain hanes ei holl berthnasau.

Mae ganddo saith plentyn, 38 o wyrion a 34 o or-wyrion.

Arbenigwraig teuluol

Ond dyw'r holl deulu erioed wedi bod gyda'i gilydd yn yr un ystafell.

"Fe fyddwn i'n gorfod llogi neuadd i ni gyd gael cyfarfod," meddai Mr Jones.

"Mae gen i gymaint o berthnasau dwi ddim yn gallu cofio enwau bob un ohonyn nhw.

"Mae fy merch, Carol yn f'atgoffa am benblwyddi pawb ond rwy'n sicrhau fy mod yn anfon carden at bawb."

Dywedodd Cat Whiteway, sy'n arbenigwraig teuluol a chyflwynydd rhaglen BBC Radio Wales, Look Up Your Genes, ei bod yn anarferol i rywun gael gymaint o berthnasau sy'n dal yn fyw.

"Dwi ddim wedi clywed am unrhyw un gyda chymaint o berthnasau," meddai.

"Mae'r nifer o berthnasau sydd gan Mr Jones yn nifer sylweddol o ran teuluoedd sy'n byw ym Mhrydain."

Yn ôl Record y Byd Guinness, mae Mr Jones yn bell o dorri'r record am gael y mwyaf o berthnasau sy'n dal yn fyw.

Pan fu farw Samuel S Mast o Fryburg, Pennsylvania yn 96 oed ar Hydref 15 1992, roedd ganddo 824 o berthnasau ar dir y byw.

Roedd ganddo 11 plentyn, 97 o wyrion 634 o orwyrion ac 82 o or-orwyrion.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.