Gobeithio cyrraedd brig y siartiau

Paul Mealor Image copyright PA
Image caption Mae Paul Mealor yn dweud bod 2011 wedi bod yn 'anhygoel'

Mae cyfansoddwr o Gymro yn gobeithio bydd ei gân yn cyrraedd rhif un yn y siartiau dros y Nadolig.

Dywedodd Paul Mealor, sydd yn enedigol o Sir Ddinbych, byddai hynny'n ddiwedd rhagorol i flwyddyn "anhygoel".

Gofynnodd yr arweinydd cerddorol Gareth Malone i Mr Mealor ysgrifennu'r gân Wherever You Are ar gyfer cyfres teledu.

Yn y gyfres mae grŵp o fenywod sydd â phartneriaid yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog yn Afghanistan yn dod at ei gilydd i ffurfio côr.

Nawr mae disgwyl i'w recordiad o gân Mr Mealor gyrraedd rhif un ar ddydd Nadolig.

'Anhygoel'

Ym mis Ebrill defnyddiwyd darn o gerddoriaeth gan Mr Mealor, Ubi Caritas, fel rhan o wasanaeth priodas Dug Caergrawnt.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anhygoel," dywedodd Mr Mealor, 36, a aned yn Llanelwy ac sydd bellach yn byw ar Ynys Môn pan nad yw'n dysgu ym Mhrifysgol Aberdeen.

"Petawn i wedi siarad am rai o'm gobeithion y llynedd, ni allwn fod wedi breuddwydio am hyn.

"Mae hi wedi bod yn hollol anhygoel," meddai Mr Mealor, sydd yn athro mewn cyfansoddi cerddoriaeth.

Astudiodd cyfansoddi gyda'r diweddar Athro William Mathias, un o'r cyfansoddwyr Cymraeg gyntaf i ennill clod rhyngwladol.

Image copyright PA
Image caption Mae Nicky Scott, sydd o Wynedd yn wreiddiol, yn aelod o'r côr

Dywedodd ei bod wedi ysgrifennu Wherever You Are yn yr haf er mwyn i'r côr ei berfformio yng Ngŵyl y Cofio yn y Royal Albert Hall wrth ddathlu pen-blwydd y Lleng Prydeinig Frenhinol yn 90.

Mae'n seiliedig ar lythyrau wedi eu hysgrifennu gan y gwragedd yn y côr.

"Mae'r teimladau sydd yn y gân - cariad, gweld eisiau'r person maent yn ei garu gymaint - yn canu cloch adeg y Nadolig.

"Dwi'n credu ei bod wedi dal sylw'r cyhoedd ar yr adeg iawn.

"Dwi'n falch iawn dros y menywod oherwydd eu bod wedi gweithio mor galed," meddai Mr Mealor mewn cyfweliad gyda BBC Radio Scotland ar ddydd Iau.

Straeon perthnasol