Gosod blodau er cof am rieni

Llun teulu o Tony a Pam Adams Image copyright Other
Image caption Roedd Tony a Pam Adams, o Gasnewydd, ar eu ffordd adre' ar ôl ymweld â'u merch yn Taunton

Mae teulu cwpwl o Gasnewydd a fu farw mewn damwain enfawr ar yr M5 y mis diwethaf wedi dychwelyd i'r safle i osod torch o flodau er cof.

Dywedodd Tonia a Phillip White o Taunton, Gwlad yr Haf, bod marwolaeth eu rhieni wedi gadael "bwlch gwag".

Roedd Tony a Pamela Adams ymhlith saith o bobl a laddwyd yn y ddamwain ger Taunton ar Dachwedd 4.

Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio i achos y ddamwain.

Dywedodd Mrs White ei bod hi'n anodd disgrifio'i theimladau. Dywedodd:

"Fe fyddwn i wedi bod ar y ffôn gyda mam heddiw (Noswyl Nadolig) ac yfory ac fe fyddwn ni wedi mynd i'r eglwys gyda nhw.

"Rwy'n gobeithio i bawb arall oedd â chysylltiad â'r digwyddiad y bydd y flwyddyn nesaf yn llawer gwell iddyn nhw."

Dywedodd Mr White fod y teulu'n ceisio aros yn gryf, ond ychwanegodd:

"Mae hi'n anodd iawn yr adeg yma o'r flwyddyn."

Straeon perthnasol