Lladrad: Cyhuddo dau

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd yr ymosodiad ar y gyrrwr tacsi yn oriau mân Ddydd Nadolig.

Mae dau wedi eu cyhuddo o ladrata wedi ymosodiad ar yrrwr tacsi yn oriau mân Ddydd Nadolig.

Roedd yr ymosodiad yn Y Rhath yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 19 oed o ardal Llanrhymni ei arestio ddydd Mercher cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Fe fydd yn y llys ar Ionawr 16.

Cafodd dyn 22 oed o Dredelerch ei arestio Ddydd Nadolig.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i dacsi gael ei ddifrodi yn ardal Tremorfa ddydd Mawrth.

Fe giciodd llanc, oedd yn gwisgo top gwyn, ffenest flaen y tacsi.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.