Archwiliad post mortem i farwolaeth dau yn eu cartref

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ar gyrff dyn a menyw gafodd eu canfod mewn tŷ yng Nghwmbach ger Aberdâr.

Dywedodd yr heddlu fod y marwolaethau'n anesboniadwy ar hyn o bryd.

Cymydog ddaeth o hyd i Barry a Kath Haberfield am ei fod yn poeni am fod golau ymlaen yn ystod y dydd.

Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw i'r cyfeiriad ddydd Mawrth.

"Fe gyrhaeddodd swyddogion am 9.25am a gadael tua awr yn ddiweddarach," meddai llefarydd.

"Yn ystod y cyfnod wnaethon nhw ddim canfod unrhyw olion o garbon monocsid."

Dywedodd cymydog fod y ddau'n "bobl hyfryd".

"Roedd y ddau wedi bod yn wael ond dydyn ni dim yn gwybod beth sy wedi digwydd.

"Roedden nhw'n byw ar eu pen eu hunain ond yn rhan o'r gymuned yn y pentre."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.