Dwyn anrhegion: Apêl am wybodaeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi i swm sylweddol o arian ac anrhegion Nadolig gael eu dwyn o swyddfa bost ger y Drenewydd.

Digwyddodd y lladrad yn Swyddfa Bost Ceri rywbryd rhwng 6pm ddydd Iau, Rhagfyr 22, a 2am ddydd Gwener, Rhagfyr 23.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhywun â gwybodaeth ynghylch y lladrad i gysylltu â nhw.

Dylen nhw ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.