Cyn-faer mewn damwain farwol

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn 85 oed fu farw mewn damwain ffordd yn Sandfields, Port Talbot, ddydd Iau.

Yn yr wythdegau roedd William John Harris yn Faer Port Talbot.

"Roedd pawb yn ei alw fe'n Bill," meddai ei deulu, "ac roedd hefyd yn gynghorydd lleol.

"Yn y dre ro'dd bron pawb yn ei nabod e."

Bu farw yn y fan a'r lle yn y gwrthdrawiad am 10.15am ar y gyffordd rhwng Golden Avenue a Chrome Avenue.

Roedd Mr Harris yn gyrru Kia Picanto du ac roedd Renault Megane gwag wedi ei barcio ar ochr y ffordd.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio am dystion a gwybodaeth oddi wrth unrhyw un welodd y Kia cyn y ddamwain.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.