Yr Elyrch yn hudo Rory Donnelly

Rory Donnelly Image copyright Other
Image caption Roedd nifer o glybiau wedi dangos diddordeb yn yr ymosodwr 19 oed

Mae ymosodwr dan 21 oed Gogledd Iwerddon, Rory Donnelly, wedi dod i gytundeb gydag Abertawe o'r Uwchgynghrair.

Bydd y cytundeb tair blynedd a hanner yn cael ei gwblhau yn ffurfiol pan fydd y cyfnod trosglwyddo yn agor ddydd Sul.

Mae'r chwaraewr 19 oed o Cliftonville wedi pasio prawf meddygol

Dyw'r swm sydd wedi ei dalu i Cliftonville heb ei ddatgelu.

Addawol

Mae'r chwaraewr hefyd wedi cytuno ar delerau personol gyda'r Elyrch.

Mae disgwyl iddo ymuno â'r garfan yr wythnos nesa.

"Rydym wrth ein bodd i ddenu un o dalentau mwyaf addawol Gogledd Iwerddon," meddai'r rheolwr Brendan Rodgers, sy'n hannu o Ogledd Iwerddon ei hun.

Yn wrreiddiol roedd cynnig o £100,00 gan Abertawe wedi ei dderbyn bythefnos yn ôl.

Ond yna fe gafwyd cynnig mwy gan Everton.

Roedd y chwaraewr hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda Lerpwl.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.