Abertawe 1-1 Spurs

Abertawe yn erbyn Spurs Image copyright Other
Image caption Hon oedd gôl gyntaf Rafael van der Vaart i Spurs am ddau fis

Abertawe 1Spurs 1

Gwastraffodd Tottenham Hotspur gyfle i roi pwysau ar Manchester City a Manchester United ar frig yr Uwchgynghrair wedi i Scott Sinclair achub Abertawe gyda gôl hwyr yn Stadiwm y Liberty.

Dechreuodd Spurs y gêm yn y trydydd safle ac wedi i Van der Vaart sgorio munud cyn yr egwyl roedd yr ymwelwyr yn meddwl y bydden nhw'n dod o fewn pedwar pwynt i Manchester United ar ôl i'r tîm o Ogledd-Orllewin Lloegr golli i Blackburn ddydd Sadwrn.

Ond sgoriodd Scott Sinclair ar ôl 84 munud wedi i gôl geidwad Y Ceiliogod Brad Friedel fethu dal croesiad gan Angel Rangel.

Ar y diwedd roedd chwaraewyr Abertawe yn siomedig am eu bod yn gwybod pa mor bwysig oedd tri phwynt.

Ond roedd yr ymwelwyr yn haeddu pwynt.

Roedd 20,393 yn Stadiwm y Liberty.

Fe fydd Abertawe yn teithio i Firmingham ddydd Llun pan fyddan nhw'n herio Aston Villa a gurodd Chelsea 3-1 yn Stamford Bridge ddydd Sadwrn.

Abertawe 1 Spurs 1

Sinclair 84 Van der Vaart 44

Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Monk, Sinclair, Dyer, Allen, Gower (Augustien 62), Richards (Rangel 46), Dobbie, Moore (Graham 68)

Eilyddion:Tremmel, Rangel, Britton, Routledge, Agustien, Graham, Lita

SPURS: Friedel, Bale, Kaboul, Gallas, Walker, Assou-Ekotto, Parker (Livermore 71), Van der Vaart (Defoe 70), Modric, Sandro, Adebayor

Eilyddion: Cudicini, Dawson, Kranjcar, Rose, Livermore, Pienaar, Defoe

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 19 +37 45
2. Man United 19 +32 45
3. Tottenham 18 +15 39
4. Arsenal 19 +9 36
-----------------------------------------------------------------------------------------
15. ABERTAWE 19 -5 20

Nos Sul Ionawr 1: 5.30pm